MEMORANDWM ESBONIADOL

CYFRAITH GYFANSODDIADOL: DATGANOLI, CYMRU

 

GORCHYMYN DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 2006 (DIWYGIO) 2015

Cynnig ar gyfer Gorchymyn o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â chymhwysedd deddfwriaethol i ddiwygio adran 79 o’r Ddeddf honno (datblygu cynaliadwy)

Cyflwyniad

1.         Gosodir y Memorandwm hwn o dan Reol Sefydlog (“RhS”) 25 sy’n ymwneud â Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sydd i’w gwneud o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”).

2.         Mae adran 109 o Ddeddf 2006 yn grymuso ei Mawrhydi, trwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, i ddiwygio Atodlen 7 o Ddeddf 2006, ar yr amod bod y Gorchymyn wedi ei gymeradwyo yn gyntaf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a dau Dŷ’r Senedd.

3.         Mae RhS 25.5 yn rhagnodi bod yn rhaid gosod Memorandwm Esboniadol ar yr un pryd ag y gosodir Gorchymyn arfaethedig o dan RhS 25.4. Mae’r Memorandwm hwn felly’n cyd-fynd â’r Gorchymyn arfaethedig ac yn pennu cefndir y darpariaethau yng Ngorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2015 arfaethedig.

Crynodeb a diben y Gorchymyn

4.         Byddai’r offeryn (“y Gorchymyn”) yn diwygio Atodlen 7 o Ddeddf 2006 i roi cymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") addasu adran 79 (datblygu cynaliadwy) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ("Deddf 2006"), neu roi’r pŵer trwy is-ddeddfwriaeth i’w addasu.

5.         Nid yw’r Gorchymyn hwn ei hun yn gwneud unrhyw newid arall. Y cwbl y mae’n ei wneud yw caniatáu i'r Cynulliad ystyried diwygio adran 79 o Ddeddf 2006, pe bai’n dewis gwneud hynny.  Byddai Llywodraeth Cymru’n gobeithio dwyn diwygiad o’r fath i adran 79 gerbron yn ystod hynt y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ("y Bil").

Cyd-destun deddfwriaethol

6.         Mae adran 108 o Ddeddf 2006, ynghyd ag Atodlen 7, yn gosod rhychwant cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i basio Deddfau Cynulliad. Mae Deddf 2006 yn cynnwys darpariaethau sy’n pennu na chaiff Deddf Cynulliad addasu Deddf 2006 (Atodlen 7, Deddfau Cynulliad, Rhan 2, Cyfyngiadau Cyffredinol, paragraff 5, is-baragraff (1)).

7.         Mae rhan 2, paragraff 5, is-baragraff (2) o Atodlen 7 o Ddeddf 2006 yn pennu rhestr o ddarpariaethau penodol o fewn Deddf 2006 nad yw is-baragraff (1) yn gymwys iddynt, a chaiff Deddf Cynulliad felly addasu’r darpariaethau hynny a gynhwysir yn Neddf 2006, neu roi pŵer trwy is-ddeddfwriaeth i’w haddasu.

8.         Mae adran 109 o Ddeddf 2006 yn pennu y caiff ei Mawrhydi trwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddiwygio Atodlen 7 o Ddeddf 2006.

9.         Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff 5(2) o Ran 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2006 i gynnwys adran 79 (Datblygu cynaliadwy) er mwyn rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad ddiwygio adran 79 o Ddeddf 2006 (datblygu cynaliadwy).

10.      Daw’r Gorchymyn i rym y diwrnod ar ôl ei wneud.

11.      Mae Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gyflwynwyd i’r Cynulliad gan Lywodraeth Cymru ar 7 Gorffennaf 2014 ac y mae’r Cynulliad yn craffu arno ar hyn o bryd, yn darparu ar gyfer rhoi dyletswyddau i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â datblygu cynaliadwy. Cyflwynir gwelliant i’r Bil i gynnwys darpariaeth ar gyfer gwneud diwygiad o’r fath i Ddeddf 2006, pe cymeradwyid y Gorchymyn hwn.

12.      Rhagwelir y bydd y Bil, yn ddarostyngedig i ewyllys y Cynulliad a Chydsyniad Brenhinol, yn dod yn gyfraith ym mis Ebrill 2015.

Cefndir y polisi

13.      Mae gweithredu o ran datblygu cynaliadwy yn rhan o setliad datganoli presennol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n deddfu i ychwanegu dyfnder a manylder i arfer cynaliadwy ar draws y sector cyhoeddus ac i gorffori’r ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy mewn deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau penodedig yn y sector cyhoeddus wneud cynnydd i gyfrannu at les Cymru gynaliadwy. 

14.      Y ddyletswydd bresennol ar Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â datblygu cynaliadwy yn adran 79 o Ddeddf 2006 yw cyhoeddi cynllun yn manylu sut y byddant yn hybu datblygiad cynaliadwy; cyhoeddi adroddiad ar sut y gweithredwyd y cynllun ym mhob blwyddyn ariannol; a chyhoeddi adroddiad ynglŷn ag effeithiolrwydd y cynllun.

15.      Awgryma’r adolygiadau effeithiolrwydd nad yw’r ddyletswydd bresennol yn mynd yn ddigon pell, ac mae rhai rhanddeiliaid yn cytuno â’r awgrym hwn.

16.      Mae’r adolygiadau effeithiolrwydd annibynnol ynglŷn â gweithredu’r ddyletswydd wedi mynegi’r feirniadaeth bod y cynllun statudol yn cael ei weld yn "un o blith nifer o flaenoriaethau croes, yn hytrach na’r ffordd y mae Llywodraeth y Cynulliad yn rheoli ei blaenoriaethau croes"[1].

17.      Cydnabuwyd hyn hefyd gan Gomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy presennol Cymru yn ei sylwebaeth annibynnol ar Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Ddatblygu Cynaliadwy 2012/13, pryd y tynnodd sylw at  wendidau systemig yn y strwythurau llywodraethu presennol ar gyfer datblygu cynaliadwy a’r dull cysylltiedig o gyflwyno adroddiad ar yr hyn a gyflawnwyd.

18.      Ceisia Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ymdrin â’r gwendidau hyn trwy sicrhau bod Gweinidogion Cymru (ynghyd â chyrff cyhoeddus penodedig) yn gosod amcanion lles sy’n cyd-fynd â’r nodau lles y darparwyd ar eu cyfer yn y Bil, a bod y nodau hyn yn cael eu cyflawni mewn modd cynaliadwy. Golyga hyn roi ar waith yr egwyddor datblygu cynaliadwy a ddarperir gan y Bil, gan ddefnyddio’r pum agwedd lywodraethu sef cydweithredu (cydweithio); meddwl am y tymor hir (diogelu at y dyfodol); atal (rhwystro problemau rhag codi o gwbl); integreiddio (edrych ar y nodau i gyd gyda’i gilydd); a chanolbwyntio ar ddinasyddion wrth lunio polisïau (ymgysylltu â phobl). Mae angen arweinyddiaeth gref ac agwedd sy’n batrwm i eraill ar y lefelau uchaf er mwyn ymwreiddio datblygiad cynaliadwy trwy gyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru.

19.      Fel y nodwyd uchod, mae’r Bil yn rhoi dyletswyddau o sylwedd ar Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â datblygu cynaliadwy, a thrwy ddiwygio adran 79 o Ddeddf 2006 gellir sicrhau bod y ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn gyson ac yn cyd-fynd â’i gilydd, a sicrhau eglurdeb yn y llyfr statud.

20.      Mae’r Bil yn cryfhau trefniadau llywodraethu presennol ar gyfer gwella llesiant a datblygu cynaliadwy yng Nghymru er mwyn sicrhau y diwellir anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain (yr egwyddor datblygu cynaliadwy). Mae’n pennu nodau llesiant y disgwylir i gyrff cyhoeddus penodedig geisio’u cyflawni er mwyn gwella llesiant a datblygu cynaliadwy yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol. Bydd y Bil yn:

  1. Gosod chwe nod llesiant statudol i’w dilyn â’r "nod cyffredin" o wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru. Bydd cyrff cyhoeddus penodedig yn cyfrannu at y nodau llesiant drwy osod a chyflawni amcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
  2. Sefydlu swydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol dros Gymru;
  3. Sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru a’i gwneud yn ofynnol iddynt baratoi a chyhoeddi asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol. (Wrth wneud hyn, mae’r Bil yn symleiddio’r gofynion presennol o ran cynllunio cymunedol integredig, gan gynnwys diddymu dyletswyddau o ran Cynlluniau Lles ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cynlluniau Plant a Phobl Ifanc a chynlluniau Cymunedol.)

Canlyniad yr ymgynghori

21.      Trafodwyd a chytunwyd ar y Gorchymyn hwn â Swyddfa Cymru.

22.      Ni fu unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â’r Gorchymyn drafft hwn. Cynhaliwyd nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus eisoes ynglŷn â’r ddeddfwriaeth sylfaenol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â’r pwnc y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, fel y’u disgrifir isod, gan gynnwys yr effaith ar y ddyletswydd bresennol.

23.      Amlygwyd cefnogaeth i’r cynnig i ddeddfu o ran Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd wedi ei gyflwyno erbyn hyn, mewn digwyddiad ymgysylltu a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2011 er mwyn archwilio pa fesurau deddfwriaethol a ystyrid yn briodol gan randdeiliaid.

24.      Casglwyd barn gyhoeddus, trwy ddogfen ymgynghori, ynglŷn â chynnwys posibl cynnig deddfwriaethol newydd ynglŷn â datblygu cynaliadwy yng Nghymru; cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 9 Mai a 17 Gorffennaf 2012. Pryd y mynegwyd barn ynglŷn â chynnwys cyfraith newydd o’i gymharu â’r ddyletswydd bresennol yn adran 79, roedd y farn honno’n unfrydol; roedd rhanddeiliaid yn dymuno gweld dyletswydd ar Weinidogion Cymru a oedd yn mynd ymhellach na’r darpariaethau presennol sy’n gofyn am ‘gynllun i hybu’ datblygiad cynaliadwy.  

25.      Cyhoeddwyd papur gwyn ym mis Rhagfyr 2012 â chynigion penodol o ran cyfraith newydd ynglŷn â datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 3 Rhagfyr 2012 a 4 Mawrth 2013 a chafwyd 3927 o ymatebion (gan gynnwys 3749 o ymatebion ymgyrch). Cyfrannodd y rhain yn uniongyrchol at y broses o ddatblygu’r dull gweithredu a amlinellwyd yn y papur gwyn.

26.      Ni wnaeth ymatebion i’r ymgynghoriad hwn fynegi unrhyw broblemau ynglŷn â’r diben, a ddatganwyd yn benodol yn y papur, i geisio diwygio'r ddyletswydd bresennol yn adran 79 o Ddeddf 2006, ar yr amod na fyddai hynny’n arafu’r ddeddfwriaeth newydd ynglŷn â datblygu cynaliadwy. Roedd rhai rhanddeiliaid hefyd yn cydnabod pwysigrwydd dyletswydd yn adran 79 o Ddeddf 2006 a oedd yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth newydd ynglŷn â datblygu cynaliadwy.

27.      Cyhoeddwyd adroddiad Llywodraeth Cymru ar Grynodeb yr Ymgynghoriad ym mis Mai 2013 a chyhoeddwyd yr holl ymatebion ar wefan Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2013. Roedd y crynodeb yn cynnwys manylion y sefydliadau a hysbyswyd ynglŷn ag ymgynghoriad y Papur Gwyn ynghyd â rhestr o’r rhai a ymatebodd.

Goblygiadau ariannol

28.      Ni fyddai unrhyw oblygiadau ariannol yn deillio o’r Gorchymyn hwn. Cynhaliwyd asesiad effaith llawn ar Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol pan y’i cyflwynwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a chafodd ei adolygu yn dilyn craffu Cyfnod 2.

 

Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Tachwedd 2014

 



[1] Adolygiad o Effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, 31 Ionawr 2012.  http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/publications/effectivenessreview2012/?skip=1&lang=cy